Pethau eraill i’w hystyried:
- Archebwch yn Gynnar Lle’n Bosib - Mae ein neuaddau’n brysur ac yn llenwi’n gyflym, yn enwedig yr ystafelloedd mwyaf poblogaidd. Mae archebu’n gynnar yn sicrhau’r dewis gorau ac yn un peth llai i’w drefnu.
- Dim Angen Blaendal - Unwaith yr wyt wedi derbyn cynnig gennym, mae’n bosib archebu dy ystafell heb dalu blaendal.
- Ystafell wedi’i Gwarantu i Fyfyrwyr Blwyddyn Gyntaf - Hyd yn oed os yr wyt yn ymuno drwy’r system Glirio, rydym yn gwarantu lle mewn neuadd i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf.
Cynllunio Ymlaen Llaw Er Mwyn Tawelwch Meddwl
Mae gennym ddau bentref llety unigryw, Ffriddoedd a’r Santes Fair, pob un â’i gymeriad, cyfleusterau a theimlad cymunedol ei hun. Os wyt yn chwilio am ystafell en-suite, lle tawelach, neu awyrgylch mwy cymdeithasol, mae yma lety at ddant pawb.
Mae’n bosibl ymweld â’r ddau bentref llety ar y diwrnod os ydych yn cynllunio’n ofalus, ond gan fod pob ymweliad yn gallu cymryd hyd at awr, gall fod yn anodd. Felly, rydym yn argymell gwneud ychydig o ymchwil ymlaen llaw er mwyn cymharu a phenderfynu pa un sy’n addas. Meddylia am beth sy’n bwysig i ti, ystafell en-suite neu ystafell gyda chawod a thŷ bach ar y cyd? Tawel neu gymdeithasol?