PAM ASTUDIO DRWY'R GYMRAEG?
Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnig profiad dysgu mwy personol. Mae dosbarthiadau llai yn golygu mwy o gyfleoedd i gyfrannu a chysylltu â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Mae hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog i dy yrfa - mae galw mawr am weithwyr dwyieithog ledled Cymru, ac mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn dy baratoi i gamu ymlaen i'r byd gwaith gyda hyder.
Cefnogaeth Ariannol Am Astudio Drwy'r Gymraeg
- £1,000 Prif Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol – ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. (rhaid sefyll arholiad mynediad Bangor).
- £500 Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – ar gyfer y rhai sy'n astudio 40 credyd y flwyddyn.
- £250 Bwrsari Cymraeg – hefyd ar gyfer 40 credyd y flwyddyn a gellir ei gyfuno gyda'r uchod.
BETH I'W DDISGWYL YN Y DIWRNOD AGORED
Mae'r Diwrnod Agored wedi'i gynllunio i roi blas go iawn o sut beth yw astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yma. Dyma beth sydd ar gael.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru ac mae'n cael ei chydnabod am ei gwasanaethau dwyieithog a'i chefnogaeth i fyfyrwyr.
Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda gwaith ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau, a pharatoi ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
O gyngor ariannol i gwnsela, mae'r holl wasanaethau myfyrwyr ar gael yn Gymraeg.
Cei ymuno â gweithgareddau Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), a chymryd rhan mewn corau, clybiau chwaraeon, cymdeithasau llenyddol, a mwy.
Mae cyrsiau iaith Gymraeg am ddim ar gael i'r rhai sydd eisiau dysgu neu wella eu sgiliau.
Lleisiau Myfyrwyr
Wyt ti eisiau clywed gan y rhai sydd wedi astudio drwy'r Gymraeg? Mae'r gyfres 'Bangor Be Wedyn?' yn cynnwys sgyrsiau gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiadau nhw o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a sut mae hynny wedi agor drysau yn eu gyrfaoedd. Mae eu straeon yn ysbrydoli ac yn ffordd wych o ddeall effaith go iawn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.