Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor gan ddefnyddio platfform Cynghrair Asesu Cyngor Ysgol Meddygaeth (MSCAA). Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â Chyfweliadau Bach Lluosog wyneb yn wyneb (Multiple Mini Interviews), ac yna’r arholiad.
Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei fapio yn erbyn canlyniadau dysgu Blwyddyn 1 a bydd yn cael ei osod yn safonol gyda darlithwyr y gyfadran, gan ychwanegu’r dull ystadegol mwyaf priodol i osod y marc llwyddo fel y penderfynir gan y Grŵp Gosod Safonau a’r seicometregydd.
Ar gyfer pwy mae’r Arholiad Mynediad?
Bydd ymgeiswyr sy’n raddedigion rhaglenni gradd sy'n berthnasol i astudiaethau meddygol, gan gynnwys graddedigion Deintyddol, sy'n bodloni'r meini prawf derbyn penodedig ac sy'n cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus yn cael eu gwahodd i sefyll yr Arholiad Mynediad a chyfweliad.
Noder nad yw'r Arholiad Mynediad yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n dod o'n ffrydiau bwydo cydnabyddedig.
Meysydd y bydd yr arholiad Meddygaeth i Raddedigion Mynediad 2026 yn seiliedig arnynt:
- Amlinellu adeiledd/swyddogaeth y prif foleciwlau biolegol ac organynnau cellog. Y Gell Rhan 1 a Rhan 2. Disgrifio prosesau cellol y gell drwy amlinellu adeiledd a swyddogaeth ei horganynnau.
- Egluro’r prosesau cellol sy’n ymwneud ag anfon, derbyn a phrosesu negeseuon.
- Nodi’r celloedd a geir yn y pedwar math o feinwe yn y corff ac egluro beth yw eu swyddogaeth. Egwyddorion microanatomeg. Amlinellu egwyddorion sylfaenol histoleg; sut, pam a dehongliad.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth cydrannau'r system gyhyrysgerbydol.
- Nodi a disgrifio gwahanol gydrannau'r system gyhyrysgerbydol.
- Disgrifio microadeiledd cyhyrau sgerbydol, cyhyrau cardiaidd a chyhyrau anrhesog a pherthnasu’r microadeiledd i fecanweithiau cyfangu pob un o’r mathau. Cyfangiad cyhyrol. Disgrifio’r mecanwaith cyfangu mewn cyhyrau sgerbydol ac amlinellu’r hyn sy’n debyg a'r hyn sy’n wahanol rhwng cyhyrau sgerbydol, cyhyrau cardiaidd a chyhyrau anrhesog.
- Cymharu resbiradaeth aerobig ac anaerobig, gan gynnwys newidiadau metabolaidd mewn ymateb i ymarfer corff. Rhyddhau egni o fwyd gydag ocsigen a heb ocsigen. Disgrifio cydrannau sylfaenol resbiradaeth aerobig ac anaerobig.
- Disgrifio trefniadaeth y brif system nerfol a’r system nerfol berifferol.
- Nodi a disgrifio gwahanol gydrannau'r system nerfol a'u swyddogaeth.
- Egluro’r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddargludiad nerfau/adnodd ar-lein. Potensial gweithred ar hyd acson; Potensialau gorffwys a gweithred. Egluro’r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddosbarthiad ïonau ar draws y gellbilen a sut mae sianeli ïonau a reolir gan foltedd yn rheoleiddio dargludiant y bilen.
- Disgrifio egwyddorion delweddu'r corff, gan enwi'r prif dechnegau. Egwyddorion delweddu. Disgrifio egwyddorion sylfaenol delweddu meddygol.
- Amlinellu’r camau yng nghylchred bywyd y gell.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed / system resbiradol / y system dreulio. Microanatomi tiwbiau dynol. Disgrifio microanatomi gwahanol diwbiau’r corff dynol.
- Gwahaniaethu rhwng cydrannau cellog y gwaed yn seiliedig ar eu hadeiledd a'u swyddogaeth. Haemostasis. Disgrifio adeiledd pibellau gwaed a chyfansoddiad gwaed mewn perthynas â haemostasis.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed. Rhagarweiniad i'r Thoracs.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed a'i threfniadaeth yn y thoracs, gan berthnasu hynny â’r anatomi arwynebol a delweddu radiolegol.
- Disgrifio’r gylchred gardiaidd a sut y caiff ei rheoli.
- Egluro pwysigrwydd rheolaeth sympathetig a pharasympathetig dros gyfradd curiad y galon.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system resbiradol. Rhagarweiniad i'r Thoracs.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system resbiradol.
- Egluro’r broses o gyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint a'r meinweoedd perifferol ac effaith pH ar argaeledd ocsigen. Swyddogaeth yr ysgyfaint: cyfnewid nwyon (graddiannau, arwynebydd). Disgrifio trylediad ocsigen a charbon deuocsid ar draws y bilen gapilaraidd alfeolaidd (rhwystr nwy-gwaed) a thrafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar symudiad nwyon rhwng yr amgylcheddau mewnol ac allanol.
- Egluro sut y ceir rheolaeth homeostatig dros gydbwysedd hylif a pH. Rhaniadau hylif a rheoleiddio pH.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system gastroberfeddol a'i threfniadaeth yn yr abdomen, gan berthnasu hynny â’r anatomi arwynebol a delweddu radiolegol. Anatomi’r Abdomen.
- Nodi swyddogaeth amrywiaeth o fitaminau a mwynau. Fitaminau a mwynau. Disgrifio swyddogaeth fitaminau a mwynau.
- Egluro sut y caiff archwaeth ei reoleiddio. Rheoleiddio treuliad (mecanweithiau adborth) ac archwaeth. Egluro’r mecanweithiau adborth sy'n rheoleiddio treuliad ac archwaeth.
- Cymharu resbiradaeth aerobig ac anaerobig, gan gynnwys newidiadau metabolaidd mewn ymateb i ymarfer corff (parhad). Y defnydd o ynni wrth wneud ymarfer corff. Mesur yr ymateb i gynnydd yn y galw am ynni wrth ymarfer corff.
- Disgrifio cydrannau deiet cytbwys gan gynnwys y microfaetholion a'r macrofaetholion allweddol. Maeth. Disgrifio deiet cytbwys.
- Disgrifio sut y caiff metaboledd egni ei reoleiddio, gan gymhwyso hyn i'r ymateb i ymprydio. Rhoi cronfeydd ynni ar waith. Disgrifio sut y caiff carbohydradau, proteinau a lipidau eu rhoi ar waith wrth ymprydio.
- Egluro sut y ceir rheolaeth homeostatig dros gydbwysedd hylif a pH. Yr aren - hidlo, amsugno a secretu. Trafod ffurfiant wrin, gan gynnwys y grymoedd sy'n rheoli hidlo, a'r mecanweithiau sy'n rheoli amsugniad a/neu secretiad ïonau, osmolytau a dŵr.
- Disgrifio trefniadaeth y pelfis ac ymysgaroedd y pelfis.
- Disgrifio a chymharu adeiledd a swyddogaeth sylfaenol systemau cenhedlol-droethol gwrywaidd a benywaidd. Cyflwyniad i'r Pelfis a'r System Cenhedlol-droethol.
- Nodi a disgrifio adeiledd a chydberthynas y bledren a'r wrethra yn y gwryw a'r fenyw. Hormonau atgenhedlu. Disgrifio swyddogaeth hormonau sy'n gysylltiedig ag atgenhedlu.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y llwybr wrinol. Anatomi’r Abdomen a Rhagarweiniad i'r Pelfis a'r Systemau Cenhedlol-droethol.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y fraich, gan berthnasu hynny â’r anatomi arwynebol a delweddu radiolegol. Y fraich.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y fraich, gan berthnasu hynny â’r anatomi arwynebol a delweddu radiolegol.
- Egluro gweithrediad ac ataliad ensymau. Ensymau a Chineteg Cyffuriau. Disgrifio gweithrediad ac ataliad ensymau.
- Disgrifio mecanweithiau cyffredinol gweithrediad cyffuriau, sy'n ymwneud ag egwyddorion ffarmacodynameg a ffarmacocineteg. Rhagarweiniad i ffarmacoleg Mecanweithiau gweithrediad cyffuriau.
- Egluro’r berthynas rhwng y lletywr / micro-organeb. Egwyddorion Imiwnedd 1 – pam fod arnom ei angen! Egluro egwyddorion y berthynas rhwng lletywr a micro-organeb.
- Cymharu’r ymateb imiwnedd cynhenid ac ymaddasol. Egwyddorion imiwnedd 2 - sut mae'n gweithio. Amlinellu nodweddion yr ymatebion imiwnedd cynhenid ac ymaddasol.
- Disgrifio trefniadaeth y brif system nerfol a’r system nerfol berifferol. Adeiledd a Swyddogaeth yr Ymennydd. Disgrifio adeiledd a swyddogaeth sylfaenol yr ymennydd.
- Cymharu’r system nerfol somatig a'r system nerfol awtonomig. Y system nerfol awtonomig: trawsyriad synaptig. Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y synaps a chrynhoi dilyniant cyffredinol y digwyddiadau mewn trawsyriad synaptig.
- Cyferbynnu system nerfol sympathetig a system nerfol barasympathetig. System nerfol awtonomig: niwrodrosglwyddyddion a derbynyddion. Disgrifio trefniadaeth y system nerfol sympathetig a’r system nerfol barasympathetig; cymharu a chyferbynnu ymatebion awtonomig.
- Amlinellu’r llwybrau nerfol sy'n rheoli symudiad gwirfoddol. Y system nerfol: symudiadau. Amlinellu’r llwybrau nerfol sy'n caniatáu rheolaeth wirfoddol dros symudiad.
- Amlinellu’r llwybrau nerfol sy'n rheoli synhwyriad cyffredinol. 'Y System Nerfol - Rheolaeth dros Symudiadau a Rheolaeth Synhwyraidd. Disgrifio’r llwybrau sy'n rheoli symudiad gwirfoddol a synhwyriad cyffredinol.
- Amlinellu’r llwybrau nerfol sy'n rheoli synhwyriad arbennig.
- Disgrifio effeithiau ffarmacolegol ar y llygad dynol.
- Egluro’r prosesau cellol sy’n ymwneud ag anfon, derbyn a phrosesu negeseuon.
- Trafod perthnasedd ffactorau ymddygiadol mewn ymarfer meddygol. Ffisioleg a Seicoleg Straen. Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ffactorau ymddygiadol mewn meddygaeth.