Calendr Arweinwyr Cyfoed
| Hydref – Pasg | Ffurflenni arweinwyr cyfoed electronig ar agor |
| Diwedd Hydref | Sesiynau gwybodaeth i ddarpar arweinwyr cyfoed – mae’r rhain yn cael eu hailadrodd ar ddechrau semester 2 |
| Tachwedd / Mai | Hyfforddiant arweinwyr cyfoed – rhaid i bob arweinydd cyfoed fynd i un o’r nifer o sesiynau sydd ar gael |
| Ionawr – Mehefin | Byddwn yn cysylltu â chanolwyr ac yn gwirio cofnodion disgyblu’r rheiny sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant |
| Pasg – Medi | Yr arweinwyr cyfoed yn cadw mewn cysylltiad â’r cydlynwyr ysgol ynglŷn â threfnu gweithgareddau croeso |
| Medi | Arweinwyr cyfoed yn casglu eu llawlyfrau a chrysau-t gan y cydlynwyr ysgol |
| Penwythnos Cyntaf | Arweinwyr cyfoed yn cyfarfod a chyfarch myfyrwyr newydd yn y neuaddau preswyl ac yn gwahodd pawb i nosweithiau cymdeithasol |
| Yr Wythnos Groeso | Bydd yr arweinwyr cyfoed yn tywys y myfyrwyr newydd trwy gydol eu hwythnos gyntaf – teithiau ymgynefino, opsiynau modiwlau, cofrestru, mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol |
| Ar ôl yr Wythnos Groeso | Bydd yr arweinwyr cyfoed yn parhau i gynnig cefnogaeth ar ôl yr Wythnos Groeso – bydd hyn yn llai dwys ac fel arfer yn dirwyn i ben yn raddol |
| Ebrill – Mai | Seremoni’r arweinwyr cyfoed – cyflwyno tystysgrifau i’r holl arweinwyr cyfoed, ynghyd â Gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn |