Y Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant i Fyfyrwyr
Angen Cymorth Lles ac Iechyd Meddwl?
- Defnyddiwch ein Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7 / Cwnsela a/neu
- Cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles
Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7 / Cwnsela
Mae ein Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7 / Cwnsela yn cynnig cymorth rownd y cloc ar gyfer eich anghenion lles ac iechyd meddwl.
Gwasanaeth Lles
Mae ein tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol cymwysedig, cwnselwyr dyletswydd, a Seicotherapydd Celf, sy'n gweithredu fel ein Cynghorydd Lles, yma i'ch cynorthwyo gyda:
- Pryderon sy'n ymwneud ag astudio
- Trawma
- Materion perthynas
- Rheoleiddio emosiynol
- Materion sy'n ymwneud ag anabledd iechyd meddwl
- Hygyrchedd
- Cynhwysiant a llawer mwy
Cwnsela trwy'r Gymraeg
Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cwnsela trwy'r Gymraeg. Os ydych chi'n Fyfyriwr Meddygol Gogledd Cymru neu'n well gennych gwnsela trwy'r Gymraeg, gall ein Cwnselydd Dyletswydd drefnu hyn i chi.
Trefnu Apwyntiad
I drefnu apwyntiad gyda'n cynghorwyr iechyd meddwl neu'r Cynghorydd Lles, sy'n cynnig seicotherapi celf hefyd, defnyddiwch ein . Fel arall, gallwch gysylltu â ni trwy e-bost yn wellbeingservices@bangor.ac.uk neu dros y ffôn ar 01248 388520.
Cyngor Brys
Os oes angeng cymorth arnoch ar unwaith mewn argyfwng, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i drefnu apwyntiad brys neu, os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu cadw eich hun yn ddiogel, ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran A&E leol.
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl GIG
Bydd ffonio GIG 111 ac yna dewis opsiwn 2 yn eich cysylltu â llinell gymorth iechyd meddwl GIG sy’n gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu unrhyw un sydd eisiau cyngor ar sut i gefnogi rhywun arall.