Swyddfa Tai Myfyrwyr
Chwilio am dŷ? Peidiwch â chwilio ymhellach!
Studentpad
Mae’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn ymdrin â llety preifat ar rent i fyfyrwyr yn bennaf. lle gellwch chwilio drwy ein cronfa ddata am yr eiddo delfrydol i’w rentu - eiddo newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd!
Cewch hefyd a ar y wefan, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth a fydd o gymorth.
Rhannu Llety gyda Myfyrwyr
Ysgrifennwyd gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr a’r Tîm Gwaith Achosion Myfyrwyr, i roi gwybodaeth a chyngor hwylus i fyfyrwyr sy’n penderfynu byw gydag eraill tra byddant yn y brifysgol. Maent yn ymdrin â materion megis dewis gyda phwy rydych am fyw, a beth i'w wneud os aiff pethau o chwith. Yn ddelfrydol, dylai pawb sy'n mynd i rannu llety neu sy'n bwriadu mynd i rannu llety eu darllen.
Cwestiynau Cyffredin am dai ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Canllawiau tai i fyfyrwyr rhyngwladol:
Gwobrau Landlordiaid
Dewch i wybod am Wobrau Landlordiaid Undeb y Myfyrwyr yma:
Myfyrwyr gyda theuluoedd
Mae gwybodaeth i fyfyrwyr â theuluoedd ar gael yma:
(Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol)
Myfyrwyr tu allan i Fangor
- Os hoffech gysylltu â Swyddfa Tai Myfyrwyr Bangor, efallai y bydd yn haws i chi gysylltu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy Microsoft Teams.
- Gallwch hefyd ddod o hyd i a ar y wefan, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth a fydd o gymorth.
- Os ydych yn chwilio am lety y tu allan i ardal Bangor, gallwch gysylltu ag asiantaethau gosod tai yn yr ardaloedd perthnasol i ddod o hyd i restrau o'r llety sydd ar gael. Mae gan wefan Shelter rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i ddod o hyd i rywle i’w rentu’n breifat a beth i’w ystyried wrth feddwl am ble i rentu:
- Cymru:
- Lloegr:
- Ardaloedd lleol y tu allan i Fangor
- Mae manylion amserlenni bysiau ar gyfer Bangor ac ardaloedd lleol eraill (e.e. Y Felinheli, Caernarfon, Bethesda, Ynys Môn (megis Porthaethwy a Biwmares), Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Llandudno) i’w gweld yma:
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Gallwch gynllunio eich siwrnai neu weld pa opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i chi ar y wefan ganlynol:
- Wrecsam
- Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cytuno’n garedig y gall myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam edrych ar restrau llety preifat Prifysgol Glyndŵr, sydd i’w gweld .
- Cyngor i denantiaid preifat gan Gyngor Wrecsam, yn cynnwys gwybodaeth am ddod o hyd i le i’w rentu:
- Caer
- Mae trenau fel arfer yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Bangor a Chaer. Gellir cynllunio taith ar drên a dod o hyd i wybodaeth am amseroedd trenau yma:
- Gallwch ddod o hyd i gyngor i denantiaid ar wefan Cheshire West and Chester Council yma:
- Sylwch y bydd deddfwriaeth tai yn amrywio'n fawr rhwng Cymru a Lloegr. Mae cyngor ar rentu tai preifat i’w weld yn:
Cysylltwch â Ni
| ¹ó´Úô²Ô | E-bost |
|---|---|
| 01248 382034 | taimyfyrwyr@bangor.ac.uk |
Cysylltiadau eraill